Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Ionawr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11172
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar y diwrnod hwnnw.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
Ni gyflwynwyd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad
5 Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM7550 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai’ a gasglodd 18,103 o lofnodion.
P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.34
NDM7549 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Hawliau plant yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7547 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y niwed a achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2 rhag lledaenu.
2. Yn credu bod mesurau lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi Cymru ac wedi effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r rhai olaf, drwy sicrhau:
a) bod gan Gymru drefn brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu cyfleusterau i ganiatáu i unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob cyswllt wyneb yn wyneb.
b) bod gan GIG Cymru fwy o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen yn nes at y nifer o welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, lle mae llai o farwolaethau y pen o'r boblogaeth na Chymru.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth busnes, gan sicrhau bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
37 |
41 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan gynnwys:
a) £5.2 biliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru;
b) y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws;
c) y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig
d) cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws
e) y cynllun benthyciadau adfer;
f) caffael brechlynnau a cyfarpar diogelu personol yn y DU; a
g) defnyddio'r lluoedd arfog.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dyrannu'r adnoddau nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau Cymru;
b) rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin a chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus;
c) gwarantu bod cymorth busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu cyflwyno; a
d) datblygu cynllun cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda phrosiectau seilwaith arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
32 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau.
2. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig.
3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.
4. Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
6 |
13 |
42 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn strategaeth COVID-19 wahanol i Lywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
8 |
32 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r strategaeth COVID-19 fwyaf effeithiol i Gymru yw ymateb unedig, DU-gyfan, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwyr
Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
9 |
31 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7547 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau.
2. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig.
3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.
4. Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
8 |
9 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.34 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 16.41
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.46
NDM7551 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cefnogi'r rhai sy'n ein cefnogi ni: llesiant meddyliol ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.12
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021